Cartio Dan Do Redline yw un o’r ychydig Gylchoedd Cartio Dan Do annibynnol yng Nghymru, lle medrwch fwynhau’r prisiau isaf heb gyfaddawdu â diogelwch. Wedi ei leoli o fewn ardal o harddwch anghyffredin, mae Cartio Dan Do Redline wedi ei sefydlu yng Nghaernarfon, Gwynedd, Gogledd Cymru. Y mae’n agos at Ynys Môn, Conwy a holl ganolfannau eraill Gogledd/Canolbarth Cymru a’r Gogledd Orllewin.
Cartio Dan Do yw un o’r campau cynhyrfus sy’n tyfu gyflymaf yn y byd. Dewch â’ch ffrindiau a’ch teulu, neu hyd yn oed gydweithwyr, a heriwch nhw i ras sy’n wirioneddol gyffrous!!
Ystyrir cartio yn gyffredinol fel cam tuag at rengoedd uwch a mwy costus o gampau ceir. Pam nad anelwch at fod y Lewis Hamilton nesaf!!
Darperir ar gyfer pob math ar grwpiau ac unigolion, o ddechreuwyr rhonc i ddigwyddiadau croesawu corfforaethol - y cyfan o dan hyfforddiant arbenigol ein staff, sydd wedi eu hyfforddi’n drwyadl. |