Lleolir Cartio Dan Do Redline ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru. Mae’r orsaf drenau leol ym Mangor (9 milltir/14 km) a’r meysydd awyr agosaf yw Lerpwl (85 milltir/96 km) a Manceinion (96 milltir/154 km) Nid ydym ond 29 milltir/46 km o Derfynfa Fferi Caergybi, sy’n cysylltu tir mawr Prydain â Gweriniaeth Iwerddon.
Ceir dwy brif ffordd fawr - yr A55 a’r A470. Mae’r ddwy ffordd yn cysylltu â’r A487, sef y brif ffordd drwy Gaernarfon.
Mae’r A55 yn dilyn arfordir Gogledd Cymru i Fangor cyn croesi Afon Menai ymlaen am Gaergybi. Cymerwch allanfa Cyffordd 9 – mae hon wedi ei harwyddo am Fangor, Caernarfon ac Ysbyty Gwynedd, sef y Gyffordd sydd agosaf at Bont Britannia ar ochr y tir mawr. O hynny ymlaen dilynwch yr arwyddion A487 am Gaernarfon.
Mae’r A470 yn brif ffordd o Dde Cymru ac yn arwain o Gaerdydd at Landudno. Mae’r A487 yn ymuno â’r A470 ger Gellilydan (rhwng Trawsfynydd a Ffestiniog) ac yn parhau drwy Borthmadog am Gaernarfon a Bangor.
Dilynwch yr A487 tuag at Gaernarfon. Unwaith y cyrhaeddwch y dref, dilynwch yr arwyddion am yr A4086 am Lanberis. Yna fe wnewch, yn fuan, ddod at arwyddion am Stad Ddiwydiannol Cibyn, sydd ar y chwith wrth i chi adael Caernarfon ar yr A4086.
Unwaith y cyrhaeddwch y stad, dilynwch y ffordd nes i chi gyrraedd Cyffordd T. Trowch i’r chwith. Mae’n lleoliad ni ar y dde ar frig y rhiw.
Fel arall, cliciwch ymai gael gweld ein map ar-lein.
Gwybodaeth Teithio
1.5 awr o Faes Awyr Rhyngwladol Manceinion
www.manchesterairport.co.uk
10 milltir o orsaf prif reilffordd Bangor
Ymholiadau ar gyfer gwasanaeth uniongyrchol Virgin West Coast i Reilffordd Llundain:
www.nationalrail.co.uk
20 munud o wasanaeth Maes Awyr Môn gan Highland Airways
www.highlandairways.co.uk
Diolch am ymweld â’n gwefan, ac edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi yn bersonol.
Gobeithiwn i chwi ganfod yr hyn yr oeddech yn chwilio amdano. Os na wnaethoch, croeso i chi gysylltu â ni. |